English // Castellano //Català
Er mwyn cyflawni’r daith hon, a enwir ‘Camre’r Gwrthffasgwyr’, bydd y grŵp yn teithio o Gaerdydd i Lundain ac ymlaen i Baris ac yna’n cerdded dros fynyddoedd y Pirineos gan wersyllu ar hyd y ffordd. Bydd y bobl ifanc yn cadw cofnod manwl o’r daith er mwyn cael darparu ffilm ddogfen maes o law.
Byddant yn dilyn yr union lwybr a gymerodd llawer o’r Brigadwyr Rhyngwladol a adawodd Brydain yn ystod y 1930au er mwyn ymuno â’r frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen.
Gŵyl Ryngwladol Parc yr Undod ym Malgrat de Mar, Catalwnia – a gynhelir eleni rhwng 29 a 31 Mai – fydd pen y daith. Yn y fan honno bydd y grŵp yn cwrdd â myfyrwyr Catalanaidd ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n archwilio hanes Rhyfel Cartref Sbaen ac etifeddiaeth cydweithrediad rhyngwladol.
Bydd y ffilm ddogfen yn canolbwyntio’n bennaf ar deithiau Harold Davies a Sidney Shosteck, sef hen ewythrod yr artist a’r cyflwynydd o Fedwas, Tad Davies. Gadawodd Harold Gastell Nedd ym 1937 a theithiodd Sidney o New Jersey er mwyn ymuno â’r frwydr ryngwladol yn erbyn unbennaeth filwrol Francisco Franco.
Aeth Harold a’i gyd-deithwyr o Gymru i Lundain yn gyntaf ac yna’n ddirgel i Baris dros y Môr Udd. O’r fan honno, aethant drwy Ffrainc i gyfeiriad y de duag at Farseille a thros fynyddoedd y Pirineos ac o’r diwedd i Farcelona.
Yn y cyfamser, yr oedd Sidney a’r gwirfoddolwyr Americanaidd eraill yn cyrchu Marseille o Baris ac yn mynd ar fwrdd llong o’r enw ‘Ciudad de Barcelona’.
Mae’r gwneuthurwyr ffilm yn bwriadu olrhain y llwybrau hyn ac ymweld â’r prif fannau a gysylltir â hanes y gwirfoddolwyr, gan gynnwys Malgrat de Mar lle y bu pysgotwyr lleol yn achub nifer o frigadwyr ar ôl i’r Ciudad de Barcelona gael ei tharo gan dorpido o long danfor y ffasgwyr ym 1937.
Yng ngeiriau’r cyflwynydd Tad Davies:
‘Nid yn aml y cewch gyfle i droedio’r un ffordd â’ch cyndadau. Rydym am ddeall beth yn union a yrrodd bobl gyffredin – yn lowyr, ffermwyr a chlercod – i adael eu cartrefi ac ymladd dros wlad nad oedd yn ôl pob golwg yn ymwneud ddim oll â nhw.
Wrth ddilyn camre’r gwirfoddolwyr hyn, rydym hefyd am ofyn i ba raddau y mae eu hanes yn berthnasol i ni heddi a mudiadau’r dde eithaf unwaith eto ar gynnydd ar draws Ewrop’.
Mae Gŵyl Ryngwladol Parc yr Undod yn fenter addysgol a diwylliannol sydd wedi’i chysegru i gofio’r Brigadau Rhyngwladol a hyrwyddo gwerthoedd democratiaeth, undod a gwrthffasgiaeth. Bob blwyddyn, bydd yn dod â myfyrwyr, haneswyr, artistiaid a gweithredwyr ynghyd er mwyn cynnal sgyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau sy’n ymdrin â hanes.
Os hoffech fod yn rhan o’r daith hon neu gwrdd â’r gwneuthurwyr ffilm ar hyd y ffordd, dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â ni:
Cysyllt y cyfryngau
Mark Redfern
+44 7948 805 627
Mae llefaryddion Cymraeg a Saesneg ar gael drwy ofyn.
Ar gyfer ymholiadau Catalaneg a Sbaeneg cysylltwch â:
Solidarity Park – info@solidaritypark.com
Gwefan: http://www.solidaritypark.com



